Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Tachwedd 2012

 

 


Adroddiad ar yr amserlen ar gyfer ystyried Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru)

1.    Ar 26 Tachwedd 2012, cafodd Bil Llywodraeth, ‘Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru)’, ei gyflwyno yn y Cynulliad.   

2.    Ar 13 Tachwedd 2012, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, er mwyn iddo ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.

3.    Yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, trefnodd y Pwyllgor Busnes amserlen i’r Pwyllgor ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytunodd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 8 Mawrth 2013.

4.    Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 3 Mai 2013, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.